StartGroepenDiscussieMeerTijdgeest
Doorzoek de site
Onze site gebruikt cookies om diensten te leveren, prestaties te verbeteren, voor analyse en (indien je niet ingelogd bent) voor advertenties. Door LibraryThing te gebruiken erken je dat je onze Servicevoorwaarden en Privacybeleid gelezen en begrepen hebt. Je gebruik van de site en diensten is onderhevig aan dit beleid en deze voorwaarden.

Resultaten uit Google Boeken

Klik op een omslag om naar Google Boeken te gaan.

Bezig met laden...

Hiwmor Clive

door Clive Rowlands

Reeksen: Cyfres ti'n jocan (2009)

LedenBesprekingenPopulariteitGemiddelde beoordelingDiscussies
1Geen7,918,895GeenGeen
Onlangs toegevoegd doorLlyfryddwr
Geen
Bezig met laden...

Meld je aan bij LibraryThing om erachter te komen of je dit boek goed zult vinden.

Op dit moment geen Discussie gesprekken over dit boek.

Geen besprekingen
O’dd mam wastad yn dweud wrtha’ i eich bod chi’n dysgu’r pethe rhyfedda’ wrth ddarllen, ac o’dd hi’n iawn ’fyd. Cyn gafael yn Hiwmor Clive doedd ’da fi ddim syniad bod Owain Glyndŵr wedi bod yn gapten ar dîm rygbi Cwmtwrch yn y flwyddyn 1399 – ychydig cyn iddo arwain gwrthryfel yn erbyn y Saeson! Mae’r gyfrol yn perthyn i gyfres ‘Ti’n Jocan’ o wasg y Lolfa, ac mae Clive Rowlands a’i gyfaill, John Evans, wedi cydweithio ar yr ychwanegiad diweddaraf i’r gyfres. Mae llawer o’r hiwmor yn deillio o atgofion a throeon trwstan ar ac oddi ar y cae rygbi, ar deithiau rygbi ac yn ôl yng Nghwmtwrch (Uchaf!). Drwy'r llyfr i gyd, mae direidi a chynhesrwydd hunanddychanol Clive yn pefrio. Mae elfen hunangofiannol i rannau o’r gyfrol wrth i Clive ein tywys drwy rai o ddigwyddiadau mwyaf arwyddocaol ei fywyd. Mae’n llwyddo i ddod o hyd i’r hiwmor sy’n bodoli yn y sefyllfaoedd tywyllaf gan gynnwys y cyfnod bu’n ymladd salwch difrifol rai blynyddoedd yn ôl. Mae balchder yn ei fro a’i genedl yn elfennau sy’n rhedeg fel llinynnau drwy’r gyfrol gyfan, a gwae unrhyw un a feiddia ddrysu Upper a Lower Cwmtwrch. Er bod rhai o’r straeon yn rhai sy’n gweithio drwy gyfrwng y Saesneg yn unig, dyw hynny ddim yn amharu ar y gyfrol. Hiwmor cynhenid Cymreig sydd i’w gael rhwng y ddau glawr. Rhaid cyfaddef na chefais gymaint o flas ar y bennod yn ymwneud â byd golff – un arall o ddiddordebau Clive. Efallai fod yma ormod o ymdrech i gynnwys jôcs fformiwläig, clyfar. Cryfder y gyfrol i fi yw’r atgofion a’r profiadau a gofnodir drwy lygaid Clive a’i gyfeillion, a’r hiwmor sy’n deillio o hynny. Hiwmor naturiol a chynnes a geir yn y gyfrol hon – hiwmor y gallwch ei ddychmygu yn codi o sefyllfaoedd, a thynnu coes go iawn – er bod peth ymestyn fan hyn a fan draw, yn unol â’r traddodiadau Cymreig gore. Gwnaeth Hiwmor Clive i fi chwerthin yn uchel droeon, a dwi hefyd yn gwybod erbyn hyn mai yng Nghwmtwrch mae'r ffordd ddeuol fyrraf yn y byd. ‘Dal i Gico’ meddai Clive yn y bennod gynta’. ‘Odi glei’ meddwn i!

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
 

Onderdeel van de reeks(en)

Je moet ingelogd zijn om Algemene Kennis te mogen bewerken.
Voor meer hulp zie de helppagina Algemene Kennis .
Gangbare titel
Oorspronkelijke titel
Alternatieve titels
Oorspronkelijk jaar van uitgave
Mensen/Personages
Belangrijke plaatsen
Informatie uit de Welse Algemene Kennis. Bewerk om naar jouw taal over te brengen.
Belangrijke gebeurtenissen
Verwante films
Motto
Opdracht
Eerste woorden
Citaten
Laatste woorden
Ontwarringsbericht
Uitgevers redacteuren
Auteur van flaptekst/aanprijzing
Oorspronkelijke taal
Informatie uit de Welse Algemene Kennis. Bewerk om naar jouw taal over te brengen.
Gangbare DDC/MDS
Canonieke LCC

Verwijzingen naar dit werk in externe bronnen.

Wikipedia in het Engels

Geen

Geen bibliotheekbeschrijvingen gevonden.

Boekbeschrijving
Haiku samenvatting

Actuele discussies

Geen

Populaire omslagen

Snelkoppelingen

Genres

Geen genres

Waardering

Gemiddelde: Geen beoordelingen.

Ben jij dit?

Word een LibraryThing Auteur.

 

Over | Contact | LibraryThing.com | Privacy/Voorwaarden | Help/Veelgestelde vragen | Blog | Winkel | APIs | TinyCat | Nagelaten Bibliotheken | Vroege Recensenten | Algemene kennis | 211,913,099 boeken! | Bovenbalk: Altijd zichtbaar